MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun: Athro
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro/ Athrawes - Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg - Cymraeg yn hanfodol
Cyngor Wrecsam
Disgrifiad
Swydd Athro / Athrawes Cefnogi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg
Llawn amser (Prif raddfa)
I gychwyn cyn gynted a phosibl.
Cytundeb tan Awst 31ain 2025 i gychwyn.
Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau ar gyfer secondiad ac yn gallu cynnig peth hyblygrwydd o ran oriau gwaith. Cysylltwch i drafod ymhellach.
Mae'r Gwasanaeth Cefnogi Hwyrddyfodiaid yn cefnogi ysgolion yr awdurdod i ddatblygu hyder a sgiliau iaith dysgwyr sy'n trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cefnogi plant wrth gynnig gwasanaeth trochi ac allgymorth Cymraeg dwys mewn ysgolion.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes egnïol, brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno efo'r tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol mewn cynllunio ac arwain ar ddatblygiad y ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid a chaffaeliad iaith yn y cyfnod cynradd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- greadigol a hyderus ac yn gwbl ymroddedig i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg.
- gyfrifol am ddatblygu rhaglen drochi a chefnogi caffaeliad iaith arloesol a blaengar, fydd yn defnyddio addysgeg ac athroniaeth y Cwricwlwm i Gymru a'r fframwaith llafaredd newydd o fewn cyd-destun themâu'r cynllun.
- sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag fo'u gallu neu gefndir, yn hapus ac yn llwyddiannus yn eu dysgu.
- gosod lles a diogelwch ein plant uwchlaw popeth arall.
- cynllunio a pharatoi profiadau ysgogol a chreadigol yn ofalus ac yn fanwl.
- arddangos agwedd gadarnhaol a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm gan ddefnyddio dulliau gweithio arloesol.
- cyfathrebu'n glir a hyderus gyda sgiliau Cymraeg rhagorol.
- ymwybodol o dechnegau trochi ac addysgeg trochi effeithiol.
- ymwybodol o ddisgwyliadau safon iaith gyntaf cynradd.
Am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag Eleri Vaughan Roberts, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Cefnogi Hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg.
Ebost: trochi@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.
This is a Welsh essential post where written and spoken Welsh is required. Applicants must apply in Welsh for this post.