MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b
Swyddog Cymorth y Gymraeg
Disgrifiad o'r swydd Swyddog Cymorth y Gymraeg
Llawn Amser (37 awr y wythnos) a Chyfnod Penodol hyd at Awst 2024 dros gyfnod mamolaeth
Graddfa gyflog 5: £26,183 - £28,748 y flwyddyn
Rhuglder yn y Gymraeg yn hanfodol (ar bapur ac ar lafar)
Diben y Swydd: Gweithio fel rhan o’r tîm Cymraeg i hyrwyddo, hwyluso a chynyddu defnydd pob dydd o’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth. Cefnogi ac annog dysgwyr gyda phob agwedd o’r Gymraeg.
Yn y rôl cyffrous hon byddwch yn rhoi cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i ddysgu, defnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg trwy hwyluso rhaglenni answyddogol o weithgareddau ac yn eu helpu nhw i gwblhau asesiadau dwyieithog/Cymraeg yn llwyddiannus. Byddwch yn cyfathrebu ag ymarferwyr lleol a chenedlaethol i sicrhau perthnasedd galwedigaethol ac yn gweithio gyda’r tîm ‘Cyfleoedd’ i ddatblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg am leoliadau gwaith, hyfforddiant a chyflogaeth.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn rhugl yn y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur), ac fe fyddai’n fuddiol i gael profiad neu wybodaeth o ddefnyddio’r Gymraeg wrth weithio mewn lleoliad gwaith, yn ysgogi dysgwyr o bob oedran a chefndir.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod:
Pecyn Gwybodaeth Swydd
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.