MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Dafydd Llwyd)

Cyngor Sir Powys
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Dafydd Llwyd)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Swydd Dirprwy Bennaeth
Parhaol / Ystyrir Secondiad
(am gyfnod o 2 flynedd)

Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo'r weledigaeth y dylai plant a staff 'Anelu'n Uchel' ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial.
Rydym fel ysgol am adeiladu ar sylfaen gadarn y gorffennol, i ddatblygu'r presennol ac i anelu at ddyfodol llwyddiannus.
Rydym yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob dysgwr. Yn ganolog i deulu'r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein
hiaith a'n hetifeddiaeth a hynny mewn modd angerddol.
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a chydwybodol yr ysgol, fel Dirprwy Bennaeth parhaol NEU ar secondiad am
gyfnod o dwy flynedd.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth. Cysylltwch drwy anfon ebost at pennaeth@dafyddllwyd.powys.sch.uk neu ffoniwch yr
ysgol ar 01686 622162. Gofynnwn yn garedig i chi, CYN ymgeisio am y swydd hon ar ffurf secondiad, i gael cymeradwyaeth eich pennaeth / corff llywodraethu, y byddwch, os yn llwyddiannus, yn cael eich
rhyddhau am gyfnod o ddwy flynedd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15fed Hydref 2023
Dyddiad llunio rhestr fer: 16eg Hydref 2023
Dyddiad cyfweliad: 26ain Hydref 2023
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd.
Yn gywir,
Mr Darryn Green

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.