MANYLION
  • Testun: Arweinyddiaeth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Busnes (Ysgol Uwchradd) (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys
Rheolwr Busnes (Ysgol Uwchradd) (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol i ddisgyblion 11-18 oed yng nghalon Powys â thua 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth gweithgar - https://www.ysgolcalon.cymru . Rydym ni'n falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni'n fwy na'u disgwyliadau.

Rydym ni'n chwilio am Reolwr Busnes llawn cymhelliant i chwarae rôl ganolog ar Dîm Arwain ein hysgol, gan ddarparu gweledigaeth o ran strategaeth a darpariaeth gweithredol i'r holl faterion sy'n berthnasol i Gyllideb, Cyllid, Adnoddau Dynol a'r Adeiladau.

Fel Rheolwr Busnes yr Ysgol, bydd disgwyl i chi gefnogi'r pennaeth wrth osod a bodloni nodau a chynllunio ariannol strategol Ysgol Calon Cymru. Byddwch yn rhoi cyngor i'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu am yr holl faterion ariannol ac arwain ar gynhyrchu incwm. Bydd gan reolwr busnes yr ysgol gyfrifoldeb dros reoli gweinyddol, rheoli cyfleusterau ac eiddo a bydd rôl arweiniol ganddo mewn iechyd a diogelwch.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol ar lefel uwch a bydd yn gallu trefnu, arwain ac ysgogi staff: yn gyfathrebwr ardderchog a blaen-feddyliwr sy'n arweinydd creadigol ac sy'n gallu arddangos sgiliau rhyngbersonol da ochr yn ochr â'r cymhelliant i helpu'r ysgol i ddatblygu a gwella.

Dyddiad Cau: 1 Hydref 2023

Cyfweliadau I'w cadarnhau

Dyddiad Dechrau Cynted â phosibl

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Dr Richard Jones, Pennaeth, office@caloncymru.powys.sch.uk