MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

DR019-4523 - DRA x 2 Ysgol Gynradd Coed Y Dderwen

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-Y-Dderwen
Pennaeth: Mrs S Townsin

Cynorthwyydd Ystafell Fwyta /Arolygydd Amser Cinio
X2 swydd ar gael:

1- Cynorthwyydd Ystafell Fwyta /Arolygydd Amser Cinio. I ddechrau cyn gynted â phosib. 1 awr y dydd, 12.00pm hyd 1:00pm

2- Cyfnod Mamolaeth Cynorthwyydd Ystafell Fwyta /Arolygydd Amser Cinio. O Ragfyr 2023 am tua dau dymor. 1 awr y dydd, 12.00pm hyd 1.00pm

£11.18 yr awr (pro rata)

Prif Ddyletswyddau:

Mae'r dyletswyddau'n cynnwys goruchwylio disgyblion amser cinio yn neuadd yr ysgol/ ystafelloedd dosbarth gyda'u cinio, ac ar yr iard.

Cynorthwyo gyda glanhau a chlirio ardaloedd ar ôl cinio.
Mae'r penodiad yn amodol ar Gytundebau Lleol, telerau ac amodau.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mrs Sarah Townsin 01685 351805.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch gael gafael ar ffurflen gais drwy ffonio 01685 725199 a'i dychwelyd nid hwyrach na dydd Gwener yr 22ain o Fedi i Adnoddau Dynol/ HR Administration, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gallwch gyflwyno'ch ffurflen gais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na'r ffurflenni cais a gyflwynir yn Saesneg.

Os ydych chi'n llwyddo i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk er mwyn rhoi gwybod i ni os hoffech gynnal eich cyfweld yn y Gymraeg neu'r Saesneg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed o fewn ein cymuned. Cyflawnir gwiriadau cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob un penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.
Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio gyda'u cyfrifoldebau unigol a chyfrifoldebau'r sefydliad yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth ac unrhyw bolisïau gweithredol perthnasol eraill sy'n cefnogi'r rhain. Ni ddylai unrhyw fater o natur gyfrinachol gael eu datgelu na'u rhannu gydag unrhyw un anawdurdodedig na chwaith eu rhannu gyda thrydydd parti ar unrhyw amod, nid yn ystod cyfnod y swydd na chwaith wedi i'r swydd ddod i ben heblaw yn ôl y drefn briodol o fewn eich swydd neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Gallai tor-cyfrinachedd arwain at orchymyn disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn ein gweithlu ac ystyriwn ein hunan fel Cyflogwr Delfrydol, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i mewn i bob elfen o'n gwaith. Croesawn ffurflenni cais gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i ymgeisio ac i ymuno â ni ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn gwbl ymrwymedig i waredu ar wahaniaethu yn y gweithle ac i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.