MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynghorwr Gwasanaethau Myfyrwyr

Coleg Penybont
Cynghorwr Gwasanaethau Myfyrwyr

Disgrifiad o'r swydd Cynghorwr Gwasanaethau Myfyrwyr

Graddfa gyflog 3: £21,740 - £23,266 y flwyddyn (pro rata)
Rhan Amser (20 awr y wythnos) am gyfnod penodol tan Mis Hydref 2024

Pwrpas y Swydd: Darparu gwasanaethau cymorth rhagorol i holl fyfyrwyr a rhanddeiliaid Coleg Penybont.

Meini prawf hanfodol

  • Gallu darparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
  • Gallu gweithredu systemau gweinyddu.
  • Gwybodaeth am Google Suite.
  • 4 TGAU (Gradd A-C) gan gynnwys Mathemateg a Saesneg a Chymraeg neu gyfwerth.
  • Sgiliau rhyngbersonol da.
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i ateb galwadau ffôn, ymholiadau a negeseuon sgwrs fyw yn hyderus yn Gymraeg.
  • Gwybodaeth am system gwybodaeth reoli EBS (Tribal).
  • Gwybodaeth am system ymgeisio UCAS.
  • Dealltwriaeth o'r system Addysg Bellach.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Dyddiad cau: 27/09/2023

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus.

Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phawb sydd ag anabledd os yw eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder, mae’n bosibl y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.