MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Gweithiwr Llwybrau Ieuenctid – Addysg a Chymorth i Deuluoedd – Cyfnod Penodol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Gweithiwr Llwybrau Ieuenctid - Addysg a Chymorth i Deuluoedd - Cyfnod Penodol
Disgrifiad swydd
Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2025

37 awr yr wythnos

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â phrosiectau newydd Ysbrydoli i Gyflawni+ ac Ysbrydoli i Waith+ Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r prosiectau o dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cwmpasu'r 10 awdurdod lleol ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ceisio darparu cymorth i bobl ifanc 11 – 24 oed sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n wynebu problemau lluosog a chymhleth sy'n rhwystrau iddynt ymgysylltu â'u llwybr addysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth o ddewis.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a chanddo sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych.  Gyda phrofiad helaeth o weithio gyda phobl ifanc sydd bellaf i ffwrdd o ymgysylltu'n gystadleuol yn y farchnad lafur.
Bydd y swydd yn rhan hanfodol o waith Awdurdodau Lleol i weithredu'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Bydd deiliad y swydd yn ailymgysylltu'n rhagweithiol ac yn cynnal perthnasoedd â phobl ifanc sydd wedi methu pontio'n llwyddiannus o'r ysgol, y coleg a hyfforddiant a hefyd â'u teuluoedd yn fwy eang, fel y bo'n briodol.
Gan weithio'n agos gyda'r Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu a Gyrfa Cymru bydd deiliad y swydd yn gweithio'n beripatetig, ac yn hynny o beth dylai feddu ar y gallu i weithio fel tîm, ond hefyd yn ôl ei gymhelliant ei hun gan weithio i gynorthwyo pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, yn y gymuned ac allgymorth.

Gall y swydd gynnwys uchafswm o 4 noswaith yr wythnos a gweithio ar benwythnosau yn achlysurol.  Mae'n hanfodol i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru ddilys lawn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 18 Awst 2023 Dyddiad llunio rhestr fer: 22 Awst 2023 Dyddiad Cyfweld: 28 Medi 2023
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr