MANYLION
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym am recriwtio Hebryngwr Croesfannau Ysgol i ymuno â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

Pwrpas y swydd yw sicrhau diogelwch plant wrth iddyn nhw groesi'r ffordd mewn man dynodedig ar amserau penodedig, heb amharu ar les defnyddwyr eraill y ffordd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • Cyrraedd lleoliad eich croesfan ar amser, yn gwisgo'r wisg gywir a chyda'r arwydd stop
  • Atal cerddwyr rhag croesi'r ffordd nes ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny, unwaith y byddwch wedi sicrhau bod yr holl draffig wedi stopio symud i'r ddau gyfeiriad
  • Gweithredu polisi'r Cyngor mewn perthynas â'r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gan gynnwys y gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch
  • Cadw rheolaeth ar y plant sy'n aros am gyfarwyddyd gan yr Hebryngwr Croesfannau Ysgol i groesi'r briffordd
Rydym am recriwtio unigolyn sy'n ddibynadwy a hyderus, un sy'n dda am gadw amser a chyfathrebu, all addasu'n gyflym ac mewn modd priodol i sefyllfaoedd sy'n newid, sy'n hyderus yn gweithio ar y briffordd.

Rhywun sydd â'r gallu i oruchwylio plant ac sy'n ofalgar ohonynt, y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rhywun all gyfathrebu mewn ffordd glir a serchog bob amser.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr ichi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Kayleigh Tonkins - Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd - 01545 572053.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol
Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy'n cael ei gadw'n dda, a hyder yn ein heconomi leol.
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli'r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio'r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.