MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Testun: Gofalwr
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr/aig Lefel 2 - Ysgol Gynradd Gymraeg

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n unigolyn egnïol a gweithgar, sydd yn cymryd balchder yn eich gwaith? Mae gennym gyfle yn yr ysgol ar gyfer gofalwr/wraig brwdfrydig i ymuno yn ein tîm, i helpu sicrhau bod yr ysgol yn lle diogel, croesawgar ac yn amgylchedd priodol i'n plant, staff ac ymwelwyr.

Bydd y swydd hon yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau yn ymwneud gydag adeilad yr ysgol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch a chynnal a chadw yr holl safle.

Rydym yn chwilio am berson sydd yn:
  • Ymarferol ac yn gallu gweithredu systemau a gweithdrefnau.
  • Cymryd balchder a chynnig gwelliannau i amgylchedd yr ysgol.
  • Dangos blaengarwch wrth sicrhau bod y safle yn ddiogel a threfnus.
  • Medru dilyn a llunio asesiadau risg priodol.
  • Cyfrannu at brosiectau ac amserlenni cynnal a chadw.
  • Yn dda gyda sgiliau trwsio syml.
  • Cyfathrebu yn effeithiol gyda holl staff yr ysgol.
  • Bâr diogel o ddwylo wrth sicrhau diogelwch y safle.
Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth gallwn gynnig gymuned addysgu ofalgar, fyrlymus a chynhwysol, yn sicrhau bod disgyblion a staff yn teimlo'n hapus a diogel yn ei mynychu.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n angenrheidiol.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Pennaeth, Gareth James ar 01970 617613 neu drwy e-bost ar jamesg19@hwcbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy