MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Rhosddu

Lôn pris

Rhosddu

Wrecsam

LL11 2NB

Ffôn: 01978 318830

Pennaeth: Mrs M. Young

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

G04 £13,168 - £13,408 y flwyddyn

27.5 awr yr wythnos

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Dros dro tan 31 Awst 2024

Yn eisiau o ddydd Llun 6 Tachwedd 2023 i weithio gyda phlant yr Adran Iau Is.

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd/arweiniad y staff addysgu/staff uwch, i gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad i ddisgyblion at ddysgu a chynorthwyo'r athro/athrawes i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

Mailbox@rhosddu-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 22 Medi 2023

CYFWELIADAU: wythnos yn dechrau 2 Hydref 2023