MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu'r Blynyddoedd Cynnar Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL FICTORIA

STRYT POYSER

WRECSAM

LL13 7RR

Rhif ffôn: 01978 360060

Cymhorthydd Addysgu'r Blynyddoedd Cynnar Lefel 2

28.5 awr yr wythnos

Gradd 04 £13,647 - £13,896 y flwyddyn

Dros dro am flwyddyn gan arwain at swydd barhaol

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

I gychwyn ddydd Llun 6 Tachwedd 2023 - i'w gadarnhau.

Rydym yn chwilio am ymarferydd angerddol, profiadol a brwdfrydig i weithio yn ein Meithrinfa. Rydym yn disgwyl i chi fod â:

• Dealltwriaeth gynhwysfawr o addysgeg y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys 'Cynllunio yn y Foment' a'r egwyddorion 'galluogi dysgu'

• Dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a sut mae'n cefnogi datblygiad a dysgu mewn plant ifanc

• Cariad tuag at yr awyr agored a gwerthfawrogiad o'i bwysigrwydd a'i werth yn natblygiad pobl ifanc a'u dysg

• Gallu siarad Cymraeg yn achlysurol a hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth

• Gallu gweithio fel rhan o dîm a chefnogi plant ifanc

• Gallu ac amynedd i gefnogi ein dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol

• Parodrwydd i gynorthwyo gydag anghenion meddygol y plant yn ein gofal

Mae gofyn eich bod chi wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn ymgymryd â'r swydd hon.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 29 Medi 2023

CYFWELIADAU: Dydd Mawrth 10 Hydref 2023