MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Penglais

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym am benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i weithio gyda disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth gan yr adran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Ganolfan Cefnogi Dysgu yn Ysgol Penglais. Prif ffocws eich gwaith fydd cefnogi disgyblion sydd gydag ystod eang o anghenion ADY. Byddwch yn cefnogi y disgybl yn y dosbarth er mwyn eu galluogi i ddilyn y cwricwlwm.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn awyrgylch brysur. Bydd angen i'r person fod yn flaengar yn y rôl er mwyn sicrhau fod disgyblion yn gallu dilyn y cwricwlwm ac yn gwneud cynnydd da yn eu haddysg. Mae'r rôl yn un delfrydol ar gyfer unigolyn uchelgeisiol sydd gyda diddordeb gwirioneddol mewn cefnogi disgyblion i gyrraedd eu gwir botensial.

Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
  • ysgol sydd yn seiliedig ar waith ymchwil gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
  • ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
  • agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
  • wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol

Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar: 01970 624811 neu drwy e-bost: hcl@penglais.org.uk

Pecyn Gwybodaeth

Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.

Dyddiad cau: 22/09/2023

Dyddiad cyfweliad: wythnos yn cychwyn 25/09/2023

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a'r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy