MANYLION
  • Pwnc: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Medi, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Gwasanaeth y Cwricwlwm i Gymru a Dysgu Proffesiynol

Cyngor Sir Powys
Rheolwr Gwasanaeth y Cwricwlwm i Gymru a Dysgu Proffesiynol
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Mae cyfle cyffrous wedi codi am arweinydd gyda phrofiad perthnasol a dealltwriaeth gadarn o bob agwedd o'r diwygiadau i addysg barhaus yng Nghymru, gyda'r Cwricwlwm i Gymru wrth wraidd hyn. Mae'r swydd yn golygu arweinyddiaeth ac atebolrwydd strategol ar gyfer ystod eang o ddiwygiadau i'r cwricwlwm o fewn ysgolion Powys, lle bydd pob dysgwr yn elwa o addysg gytbwys ac eang, gydag arweinwyr yn rhannu'r ymrwymiad at ddiwylliant o safonau uchel.

Mae'r swydd yn golygu datblygu ymhellach y Cwricwlwm i Gymru trwy gydweithio ag ymarferwyr trwy glystyrau ysgol penodol. Hefyd, mae ffocws ar ddatblygu agwedd genedlaethol ar ddysgu proffesiynol, ymchwil ac ymholi addysgol, hyfforddi a mentora i alluogi athrawon i brofi amrywiaeth eang o ddysgu proffesiynol gan gynnwys dysgu digidol i ymchwilio addysgeg ymhellach.

Agwedd bwysig o'r swydd fydd deall y dyheadau cenedlaethol a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau rhanbarthol a lleol, gan gynnwys parhau i ddatblygu hunanarfarnu effeithiol a chynllunio i wella trwy ysgolion fel sefydliadau dysgu ynghŷd â phwysigrwydd iechyd a lles wrth wraidd ethos a gwaith ysgolion ym Mhowys.

Mae hon yn rôl heriol sy'n gofyn am egni, brwdfrydedd ac ymroddiad i ymwreiddio'r system addysg y mae dysgwyr Powys yn ei haeddu.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â georgie.bevan@powys.gov.uk

Mae'r swydd hon yn gofyn am Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)