MANYLION
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Mynychu'r Ysgol a Lles Dros Dro.

Rhondda Cynon Taf
Swyddog Mynychu'r Ysgol a Lles Dros Dro.

Disgrifiad Swydd
Mae Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Swyddogion Mynychu'r Ysgol a Lles i ymuno â'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles. Mae dwy swydd dros dro wedi codi yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles. Ar hyn o bryd mae'r swyddi'n cael eu hariannu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn unig. Bydd secondiad i'r rhai sydd eisoes yn gweithio i'r Awdurdod Lleol yn cael ei ystyried yn amodol ar gytundeb rheolwr llinell presennol yr ymgeisydd.

Bydd y Swyddog Mynychu'r Ysgol a Lles yn rhoi cymorth a gwybodaeth i fynd i'r afael â lefelau presenoldeb isel mewn ysgolion ynghyd â chynorthwyo â lles disgyblion a rhoi cymorth i ddisgyblion a'u teuluoedd i oresgyn unrhyw anawsterau a/neu rwystrau sy'n eu hatal nhw rhag cael addysg. Bydd modd cyflawni hyn drwy sefydlu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr, ysgolion a theuluoedd.

Bydd y swydd hefyd yn cyfrannu at gefnogi dyletswyddau statudol allweddol y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles ac felly bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ac agwedd ragweithiol ynghyd â'r gallu i goladu a chofnodi nodiadau achos yn gywir.

Pe hoffech chi wybodaeth ychwanegol, ffoniwch: Daniel Williams ar 07736488673 neu anfonwch e-bost: Daniel.Williams@rctcbc.gov.uk