MANYLION
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd cyn-oed Ysgol Dechrau'n Deg (Cyfnod Mamolaeth)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Arweinydd cyn-oed Ysgol Dechrau'n Deg
Ysgol Feithrin Seren Bach
(efallai bydd angen gweithio yn unrhyw un o ddau leoliad Dechrau'n Deg yn yr Awdurdod Lleol)

CYFNOD PENODOL TAN GORFENNAF 2024
(yn dibynnu ar cyllid grant)

32.5 awr
39 wythnos + 3 diwrnod ychwanegol
Graddfa 5 SCP18-22
£27,344 - £29,439 y.f. pro rata
77.83% o £27,344 = £21,281 (SCP18)

CRYNODEB O'R SWYDD
Bydd gan yr Arweinydd Cyn-oed Ysgol gyfrifoldeb cyffredinol o'r lleoliad er mwyn hybu darpariaeth o'r safon uchaf sydd yn sicrhau fod plant yn ddiogel a bod chwarae ysgogol yn cael ei ddarparu ar gyfer pob plentyn unigol. Bydd yr Arweinydd yn gyfrifol am reolaeth llinell staff a phlant gan gynnwys plant sydd ag anghenion addysgol ychwanegol. Bydd hefyd disgwyl i'r arweinydd fodloni gofynion cytundeb y gwasanaeth â Dechrau'n Deg.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Sarah Ostler neu Amy Lewis ar 01685 725000

Bydd angen i bob un ymgeisydd newydd gwblhau cwrs ar-lein, 10 awr o hyd, y Gymraeg yn y Gweithle. Bydd angen i chi gwblhau rhanau 1 a 2 a dangos tystiolaeth o hyn, cyn i chi ddechrau gyda'r Awdurdod. Am ragor o wybodaeth am sut i gwblhau'r cwrs, ewch i: https://learnwelsh.cymru/

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a dylent gael eu dychwelyd, ddim hwyrach na 5ed Hydrefi 2023 i Adran Weinyddol AD, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk er mwyn dweud wrthym os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymrwymedig i ddiogelu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Bydd gwiriadau cyn gyflogaeth trylwyr yn cael eu gwneud ar gyfer pob swydd fel rhan o'r broses recriwtio a dethol.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.