MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Canolfan Ceffylau

Coleg Penybont
Goruchwyliwr Canolfan Ceffylau

Disgrifiad o'r swydd Goruchwyliwr Canolfan Ceffylau
Graddfa gyflog 6: £29,689 - £31,714 y flwyddyn
Llawn Amser a Pharhaol

Pwrpas y Swydd: Cydlynu a threfnu rhediad dyddiol yr iard a chynnal lles y ceffylau. Arwain a goruchwylio staff a myfyrwyr yr iard wrth redeg yr iard o ddydd i ddydd. Cyfarwyddo sesiynau ymarferol yn y maes rhaglen dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cwricwlwm.

Bydd gennych brofiad o weithio mewn iard fasnachol ac o oruchwylio stablau/iard geffylau a staff buarth achlysurol. Bydd gennych brofiad o gyflwyno gwersi cyfarwyddyd ymarferol i ddysgwyr ac yn meddu ar gymhwyster Canolradd BHS llawn / BHS Cam 4 Rheolwr Iard.

Cyfweliadau i'w cynnal ar 27ain Medi 2023.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu ac Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.