MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Junior Apprenticeship Learning Coach (Construction)

Coleg Penybont
Junior Apprenticeship Learning Coach (Construction)

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Dysgu Prentisiaethau Iau (Adeiladwaith)
Graddfa gyflog 5: £26,183 - £28,748 y flwyddyn (pro rata)
40 Wythnos Amser Tymor yn Unig - Tymor Penodol tan Awst 2024 - Llawn Amser
Bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar y nifer o wythnosau a weithir yn ystod y flwyddyn academaidd

Mae’r rôl hon yn rhan o’r maes cwricwlwm Partneriaethau ac yn canolbwyntio ar gefnogi’r dysgwyr 14-16 oed sydd wedi cofrestru ar raglenni Adeiladwaith Prentisiaeth Iau’r Coleg. Mae’r modelau cyflenwi’n amrywio o lefel 1 i lefel 2, lle bydd dysgwyr yn gweithio tuag at gymwysterau galwedigaethol yn ogystal â TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn wydn ac yn effeithiol wrth gefnogi dysgwyr y mae eu hysgolion wedi nodi eu bod mewn perygl neu’n fregus. Mae profiad o ddarparu cymorth a hyfforddiant mewn ysgolion neu o ddarparu cymorth dysgu ychwanegol / sgiliau sylfaenol i ddysgwyr yn hanfodol. Mae hefyd angen profiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc sydd ag anawsterau cymdeithasol, ymddygiadol a/neu emosiynol cymhleth. Mae ystod dda o sgiliau a phrofiad adeiladu cyffredinol yn dymunol.

Bydd angen Cymhwyster Sgiliau Sylfaenol ar yr ymgeisydd llwyddiannus (neu barodrwydd i gyflawni L2 a L3) a hefyd Cymhwyster Hyfforddwr Dysgu/Gwaith Ieuenctid neu Gymhwyster tebyg.

Am wybodaeth bellach, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.