MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Testun: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

3 x Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Asesu a Brysbennu Integredig

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 10. Gellir cael mynediad i'r ddau ddisgrifiad swydd isod.

Mae'r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2024.

Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i'w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw mae'n ei chynnig cliciwch yma.

Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol i lenwi rolau Gwaith Cymdeithasol parhaol yn ein Tîm Brysbennu ac Asesu Integredig, Porth Gofal. Mae'r swyddi ar agor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn ogystal â rhai profiadol. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio ledled Ceredigion gydag oedolion a gofalwyr sydd angen asesiad o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) Cymru. Ein nod fel gwasanaeth yw cefnogi unigolion a'u teuluoedd cyn gynted â phosib gan ganolbwyntio ar adfer a galluogi unigolion i fyw mor annibynnol â phosib. Fel gweithiwr cymdeithasol yn y rôl hon, cewch gyfle i weithio'n hyblyg ac yn greadigol gyda theuluoedd gan fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar gryfderau. Gwasanaeth integredig yw Porth Gofal sydd â pherthynas waith agos gyda'r bwrdd iechyd lleol ac asiantaethau partner. Mae hyn yn golygu bod modd inni weithio ar y cyd gan sicrhau bod unigolion yn cael cymorth gan y gwasanaeth iawn ar yr adeg iawn.

Fel gweithiwr cymdeithasol yng Ngheredigion byddwch yn ymuno â ni ar daith gyffrous wrth i ni barhau i drawsnewid ein gwasanaethau gan ymgorffori model Llesiant Gydol Oes ledled y gwasanaethau drwy ddull 'teulu cyfan'.

Dyma'r weledigaeth ar gyfer Model Llesiant Gydol Oes Ceredigion:
  • Sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn yng Ngheredigion yn gallu cyrraedd ei lawn botensial.
  • Sicrhau mynediad teg at wasanaethau cyffredinol a phwrpasol ardderchog sy'n diogelu ac yn cefnogi iechyd a lles pob dinesydd.
  • Datblygu sgiliau a gwytnwch a fydd yn para am oes a galluogi unigolion i oresgyn yr heriau a'r pwysau y dôn nhw ar eu traws.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymrwymo i gefnogi staff i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn eu rôl. Bydd ymuno â Thîm Ceredigion yn cynnig llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu'n broffesiynol, cymryd rhan yn natblygiad y gwasanaeth a hyrwyddo diwylliant o ddysgu ac ystyried mewn amgylchedd cefnogol.

Amdanom ni

Porth Gofal yw hwb integredig Ceredigion ar gyfer gwneud penderfyniadau, a phennu lefel yr angen ym mhob achos a'r canlyniadau gorau i'r unigolion hynny. Mae Porth Gofal wrth galon gwasanaethau sy'n sicrhau bod trigolion yn derbyn yr ymyrraeth sydd orau ar gyfer eu hanghenion, neu'n cael eu cyfeirio i gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.

Amcanion Porth Gofal yw:
  • bod oedolion yn aros yn eu cymuned a'u cartref eu hunain, gan fod mor annibynnol â phosib a gwella eu sefyllfa iechyd a'u hansawdd bywyd.
  • bod plant yn derbyn gofal a chymorth ar gyfer eu datblygiad uniongyrchol a'u lles parhaus.

Beth mae Porth Gofal yn ei gynnig:
  • Gwasanaeth ymatebol i drigolion Ceredigion.
  • Asesiad o anghenion ar sail cryfderau gan ganolbwyntio ar ddewis a rheolaeth y defnyddiwr gwasanaethau drwy ddefnyddio fframwaith Arwyddion Diogelwch.
  • Gostyngiad yn yr amser y mae gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn ei dreulio ar benderfynu a yw person yn gymwys am wasanaethau statudol.
  • Gwasanaeth sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ac sy'n bodloni gofynion statudol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
  • Gwasanaeth diogel sy'n nodi dinasyddion bregus sy'n agored i risg, ac sy'n ymateb yn effeithiol.
Beth mae Porth Gofal yn ei gyflawni:
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn y gymuned, sy'n gwella'r cyswllt rhwng pobl a'u cymunedau.
  • Annog dull cytbwys o asesu anghenion gan sicrhau bod dinasyddion wrth galon y sgyrsiau, y penderfyniadau a'r sgwrs "beth sy'n bwysig" sydd yn digwydd.
  • Brysbennu atgyfeiriadau yn amlddisgyblaethol er mwyn nodi'r gweithiwr proffesiynol cywir i ymateb e.e. ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol neu weithiwr gofal cymdeithasol, i sicrhau'r ymateb iawn ar yr adeg iawn.
  • Darparu asesiad mwy cyson a chydlynus o ofal a chymorth.
  • Gwella llif y wybodaeth rhwng gwasanaethau gan arwain at benderfyniadau cyflymach ynghylch anghenion pobl a'r cymorth iddynt.
  • Llai yn mynd i'r ysbyty drwy ddarparu gwasanaeth ailalluogi ymatebol a chyflym.
  • Darparu gwasanaeth mewngymorth i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal drwy ryddhau pobl o'r ysbyty yn amserol.
  • Ymrwymo i weithio'n integredig gyda phwyslais ar adsefydlu cadarnhaol i'r dinasyddion.
Yng Ngheredigion rydym yn cydnabod mor bwysig yw gweithio'n hyblyg a galluogi staff i gydbwyso bywyd a gwaith. I'ch cefnogi i gyflawni hyn bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
  • Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni amodau penodol, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa. Yn sgil natur y rôl, bydd yn rhaid i chi deithio o fewn Ceredigion yn rheolaidd.
  • Amser Hyblyg: Gellir gweithio'r oriau o fewn rhychwant penodol, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ôl anghenion y gwasanaeth.
Mae'r gallu i deithio ledled y sir yn hanfodol.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o afael ar y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus sydd heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ALTE a ddymunir o fewn dwy flynedd i'r penodiad.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Gymhwyso)

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon cysylltwch â Jackie Roberts: jackie.roberts@ceredigion.gov.uk neu 01545 574 108.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn oedolion mewn perygl a phlant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi oedolion mewn perygl, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod eu hawl i gael eu diogelu a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd arnom angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt cyn penodi i'r swydd hon.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
  • Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
  • Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
  • Gwasanaethau Maethu
  • Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Tai
  • Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
  • Tîm Dyletswydd Argyfwng
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy