MANYLION
  • Lleoliad: Cross College,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr DDP

Coleg Y Cymoedd
Hyfforddwr DDP
Swydd ddisgrifiad
Hyfforddwr DDP. byddwch yn hwyluso cyflwyno dysgu/asesu ar-lein a gweithgareddau cymorth i ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol dysgwyr ar draws y cwricwlwm. Byddwch yn nodi, asesu a chefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o
addysg a dod yn NEET ac yn helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn trwy weithredu rhaglenni   cymorth unigol a all gynnwys: cymorth academaidd, strategaethau astudio, cymorth presenoldeb, mentora a datblygu sgiliau cymdeithasol a chyflogaeth. Byddwch hefyd yn cynorthwyo dysgwyr gyda'r pontio i mewn, trwy ac allan o'r coleg.

Lleolir y rôl Hyfforddwr Dysgu yn Nhîm DDC yr Adran Cymorth Dysgu DDC. Mae’r rôl gyffrous hon yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarparu ymyriadau cymorth 1:1 i ddysgwyr sy’n wynebu’r risg o fod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant) a bydd yn bwydo i mewn i’r prosiect ‘Ysbrydoli AB’ ehangach a gynhelir ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cwrdd â therfynau amser a yrrir gan dargedau wrth ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ystyrlon i ddysgwyr sy’n wynebu risg.

Gwybodaeth   Bellach:

 

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd   ag   unrhyw ddyletswyddau   rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   careers@cymoedd.ac.uk