MANYLION
  • Lleoliad: Northop, Flintshire, CH7 6AA
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Cyllid

Coleg Cambria
Teitl y Swydd: Darlithydd Cyllid

Lleoliad: Llaneurgain 

Y Math o Gontract: Parhaol – Llawn Amser (22.2 awr yr wythnos) Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried ar gyfer y rôl hon

Graddfa gyflog: £29,162 - £45,077 Nodwch y bydd y cyflog hwn yn un pro rata ac yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol. 

asesiad cyflog a phrofiad perthnasol. 

Trosolwg o gyfle arbennig ar gyfer yr ymgeisydd cywir.

Ydych chi’n Gyfrifydd profiadol sy’n ymfalchïo mewn cyflwyno ansawdd a rhagoriaeth?

A oes gennych ddiddordeb mewn dechrau gyrfa gwerth chweil mewn addysg, gan ddefnyddio eich profiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf?

Os yw hynny’n wir, mae gennym gyfle perffaith i chi! Rydym eisiau penodi Darlithydd Cyllid.

Rydym yn awyddus i benodi Darlithydd mewn Cyllid.  Mae'n ddymunol (ond nid yn hanfodol) eich bod wedi dysgu neu gyflwyno hyfforddiant mewn Cyllid a Chyfrifeg. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod gennych y priodoleddau cywir i drosglwyddo gwybodaeth a rhannu eich profiad o Gyfrifeg a Chyllid, yna gallwn eich cefnogi i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gofynion ar gyfer y swydd hon. 

Cyfrifoldebau:

Addysgu ac ysbrydoli ein dysgwyr, gan gyflwyno hyd at Lefel 4 AAT a modiwl Cyllid ar y rhaglen radd.  

Paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, a chysylltu â sefydliadau dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl yr angen. 

Darparu arweiniad addysgol, cefnogaeth a chwnsela i bob myfyriwr wrth gymryd rhan mewn marchnata, cynllunio, asesu a gwerthuso darpariaeth cyrsiau.  

Cynhyrchu dogfennau fel; cofrestrau, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau o gyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn Busnes a Chyllid neu faes pwnc arbenigol perthnasol

Bod yn barod i weithio tuag at gymhwyster addysgu perthnasol

Bod yn barod i ddatblygu amrywiaeth o dechnegau dysgu ac addysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol

Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, bod yn chwaraewr tîm cryf, gan arddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu