MANYLION
  • Lleoliad: Pentrebach,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Uwch Seicolegydd Addysg Arbenigol - Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Solbury Graddfa B 1-4 + 3 SPA Pwyntiau

SYLWCH FOD HON BELLACH YN SWYDD BARHAOL

Hwyluso darpariaeth gwasanaeth seicoleg addysg safonol ar gyfer plant y Blynyddoedd Cynnar a'u teuluoedd/gofalwyr yn ardaloedd Dechrau'n Deg.

Cynorthwyo'r Pennaeth Seicoleg Addysg, y Dirprwy Seicolegydd Addysg ac Athro Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar i ddarparu arweiniad proffesiynol a chyfarwyddyd ar gyfer gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar ar faterion sydd yn ymwneud â llesiant, dysgu a datblygiad plant.

Swyddogaethau rheoli ar gyfer tîm y Blynyddoedd Cynnar/Dechrau'n Deg a chydweithio â gwasanaethau cynhwysiant eraill y Blynyddoedd Cynnar.

Sicrhau fod Seicoleg Addysg yn gwella capasiti ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar i gyflawni anghenion plant sydd ag Anghenion Addysgu Ychwanegol a gofynion allai godi yn y dyfodol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Sarah Ostler ar 01685 725000.

Rhaid i bob ymgeisydd newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o'r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda'r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau'r cwrs hwn ewch i:
https://learnwelsh.cymru/

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725199. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 21.12.2023 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.