MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Tiwtor Dysgu Cymunedol Achlysurol

Coleg Penybont
Tiwtor Dysgu Cymunedol Achlysurol

Disgrifiad o'r swydd Tiwtor Dysgu Cymunedol Achlysurol
£15.00 yr awr

Oes gennych chi awch, sgìl neu sgiliau yr hoffech eu rhannu gyda ni? Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac awyddus i drosglwyddo eu gwybodaeth, eu doethineb a’u profiad i helpu myfyrwyr ennill cymhwyster a gydnabyddir gan Agored Cymru. Bwriedir cyflwyno’r cyrsiau rhan-amser hyn naill ai yn ystod y dydd neu yn y nosweithiau.

Eich Tasgau:

  • Cynllunio, paratoi a darparu cyrsiau byr ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Trosglwyddo eich profiad o’r diwydiant, eich sgiliau a’ch gwybodaeth i raglenni dysgu ac asesiadau
  • Goruchwylio man gweithio er mwyn sicrhau diogelwch
Rydym hefyd yn chwilio am unigolion a hoffai drosglwyddo eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y meysydd pwnc canlynol:

Cerddoriaeth

Eidaleg

Ffrangeg

Blodeuwriaeth

Sbaeneg

Cymraeg

Datblygu Gwe

A chofiwch, os nad oes gennych brofiad blaenorol o fod yn diwtor, ond mae gennych brofiad o’r diwydiant, hoffem glywed gennych!

Gofynion y Rôl:

  • Rhywun brwdfrydig a chreadigol sy’n gweithio’n dda ag eraill
  • Ethig gwaith rhagweithiol
  • Gallu naturiol i gefnogi ac ysgogi
  • Ethig gwaith effeithlon ac effeithiol
  • Profiad o sgiliau penodol (fel y rhestrwyd uchod)
  • Mwynhau datblygu perthnasau â myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth yn eu profiad dysgu.
*NODWCH AR EICH CAIS YM MHA FEYSYDD YR HOFFECH WEITHIO*

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da.

Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.