MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain

Coleg Penybont
Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain

Disgrifiad o'r swydd Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain
Graddfa Gyflog 6: £29,689- £31,714 y flwyddyn (Pro Rata, Tâl fesul awr £15.39 - £16.44 )
Achlysurol (hyd at 24 awr yr wythnos), Amser Tymor yn Unig

Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Penybont ar gyfer Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain, wedi’i leoli yn ein Tîm Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Prif bwrpas y rôl hon yw darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i gefnogi myfyrwyr sydd â nam ar eu clyw ar draws y Coleg trwy gyfieithu ar eu cyfer trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain a/neu siarad gwefusau.

Fel Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain byddwch yn:
  • Darparu cymorth cyfathrebu llawn (iaith arwyddion/siarad gwefusau) fel bo’n briodol ar gyfer pob dysgwr.
  • Ysgrifennu nodiadau gwersi a/neu ddeunyddiau os oes angen hyn ar y dysgwyr.
  • Cefnogi’r dysgwyr i gymryd rhan mewn rhaglenni addysgiadol o dan oruchwyliaeth y darlithwyr.
  • Cefnogi’r dysgwr/dysgwyr ar unrhyw rhaglenni addysgol ac ymweliadau cymunedol, sy’n rhan o’u rhaglen.
  • Cefnogi’r dysgwr/dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.