MANYLION
- Lleoliad: Ty Penallta,
- Testun: Cymorth
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Administration and Accreditations Officer
Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Administration and Accreditations Officer
Disgrifiad swydd
Mae gennym ni gyfle cyffrous i Swyddog Gweinyddol ac Achrediadau ymuno â thîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned Caerffili i gynorthwyo’r tîm darparu Lluosi gyda'r holl dasgau gweinyddol ac achrediadau.
Bydd y contract yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
‘Trwy’r rhaglen Lluosi, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi dros £100m yng Nghymru i helpu gweddnewid bywydau oedolion ledled Cymru, trwy wella eu sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtora personol, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg am ddim.’
Bydd y fenter Lluosi yn darparu ymyriadau rhifedd arloesol o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion pobl leol a’r nodau cenedlaethol ar gyfer Lluosi.
Ar gyfer y rôl hon, gofynnwn ni i chi ddangos sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y cais.
Bydd y Swyddog Gweinyddol ac Achrediadau yn gweithio fel rhan o dîm prosiect Lluosi wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU; datblygu systemau gweinyddol cynhwysfawr, a'u rhoi nhw ar waith, i gynorthwyo gweithredu'r prosiect Lluosi yn effeithiol ac effeithlon; cynorthwyo'r tîm Lluosi gan ddarparu cymorth gweinyddol, ariannol ac achrediadau o ansawdd uchel.
Bydd gan y Swyddog Gweinyddol ac Achrediadau brofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa, gan ddarparu cymorth gweinyddol o ansawdd; casglu a monitro'r wybodaeth ofynnol; cynllunio, rheoli a diweddaru systemau rheoli gwybodaeth; cadw gwaith papur ac electronig sy'n gywir ac yn gyfredol; delio â nifer o ymholiadau/gohebiaeth; archebu a dosbarthu adnoddau a defnyddio meddalwedd rheoli arian neu gaffael; trefnu cyfarfodydd, coladu gwybodaeth ar gyfer adroddiadau a chymryd cofnodion; monitro ac olrhain achrediad.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt staff.
Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Jodie Gwilt ar 01495 233293 neu gwiltj@caerffili.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.