MANYLION
  • Lleoliad: Holyhead, Isle of Anglesey, LL595EN
  • Testun:
  • Oriau: Rhannu swydd
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £8.41 - £10.03
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu

Cynorthwy-ydd Addysgu

Excell Supply
Teitl y Swydd: Cynorthwy-ydd Addysgu
Math o Gytundeb: Dros Dro, Yn ystod y Tymor yn Unig
Oriau: 9-3 o’r gloch
Lleoliad Gwaith: Ynys Mon
Mae angen gwiriad DBS (gellir ei ennill drwy Excell Supply os oes angen)

Mae Excell-Supply yn gweithio gyda nifer o ysgolion ac maent yn chwilio am gynorthwydd addysgu Ysgolion Cynradd ar gyfer swyddi o ddydd i ddydd, tymor byr, tymor hir, rhan-amser a llawn amser.
Ydych chi'n gynorthwydd Addysgu sy'n chwilio am rywfaint o waith cynorthwydd addysgu cyflenwol? Boed hynny'n llawn amser, yn rhan-amser neu un diwrnod yr wythnos.Mae gwaith cyflenwi yn hyblyg iawn a gall weithio’n dda efo bywyd brysur. Mae Excell Supply wedi'i sefydlu yng Ngogledd Cymru ers 9 mlynedd ac mae ganddynt berthynas wych â'r ysgolion ar draws Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Os byddwch yn ymuno ag Excell Supply, bydd gennych dîm gwych i'ch cefnogi yn eich rolau. Mae'r Tîm Excell yn cynnwys Athrawon, CA, Ymgynghorwyr Addysgol a Rheolwyr Cyfrifon gyda blynyddoedd helaeth o brofiadau a gwybodaeth am addysg ac maent yn fwy na pharod i rannu arfer gorau er mwyn helpu chi i ddysgu a thyfu fel gweithwyr addysg proffesiynol.

Cyfrifoldebau a gofynion
• Dangos ymdrech a'r penderfyniad i wneud gwahaniaeth
• Bod â disgwyliadau uchel o gyflawniad ac ymddygiad disgyblion
• Bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol ac ysbrydoledig, sy'n dangos ymarfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth ac sydd yn blaenoriaethu‘r plant ym mhopeth
• Bod yn frwdfrydig, hyblyg, creadigol ac uchelgeisiol
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol
• Profiad diweddar a pherthnasol o weithio gyda phlant ac yn arbennig yn y cyfnod sylfaen.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd rhagorol.
• Sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol.
• Disgwyliadau uchel o gyflawniad plant.
• Y gallu i fod yn hyblyg, dangos menter, bod yn ddibynadwy ac yn frwdfrydig.

I fod yn addas ar gyfer y rôl hon byddai angen i chi gael:
•Cymwysterau Cynorthwydd addysgu Lefel 2 neu 3.
• Profiad o weithio gyda phlant yn ystod y 3 blynedd diwethaf
• Yr hawl i weithio yn y DU.
Yn dilyn gwiriadau llwyddiannus, bydd yr ymgeisydd yn gallu dechrau cyn gynted ag y bydd yn glir ar gyfer gwaith. Mae rhaid sylweddoli oherwydd natur absenoldeb achlysurol y disgybl, efallai y bydd dyddiau pan na fydd angen mynychu'r rôl.

Beth i'w ddisgwyl gan Excell-Supply
• Cyfraddau cyflog rhagorol
• Gwaith sy’n addas i chi - rydyn ni'n gwrando ar eich anghenion
• Cynllun Argymell Ffrind - yn ennill hyd at £100 fesul atgyfeiriad?
• Rheolwr Cyfrif dynodedig sydd â pherthynas gref ag ysgolion yn eich ardal
• Cyfle i gael swyddi parhaol
• Cymorth a chyngor gan ein Mentoriaid Proffesiynol gan gynnwys arsylwadau gwersi
• Mynediad i galendr llawn o gyfleoedd DPP ar ffurf ein Rhaglen Hyfforddi sesiynau Cyfnos a chyrsiau eraill a ddarperir yn ystod gwyliau'r ysgol

Fel aelodau o CRaCH (Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth) a Chwmni Cysgodol i'r DBS, (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) mae Excell Supply wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a lles plant. Rhaid i bob ymgeisydd gael gwiriadau cyflogaeth trylwyr a bydd angen Tystysgrif DBS Manylach ar y Gwasanaeth Diweddaru. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr heb DBS Manylach ar y Gwasanaeth Diweddaru wneud cais am un newydd.
Os ydych chi'n credu bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, gwnewch gais nawr os gwelwch yn dda. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn pythefnos y ddyddiad cau'r swydd wag dylech gymryd yn ganiataol yn anffodus bod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.
Hysbysiad Pwysig - Er mwyn gwneud cais am y swydd uchod, rhaid i bob ymgeisydd fod yn glîr i weithio yn y DU, neu fod yn gymwys i wneud cais am fisa gwaith perthnasol. Nid yw Excell Supply yn gallu cynnig trwydded waith i unrhyw ymgeisydd na hwyluso trwyddedau gwaith ar gyfer unrhyw swydd wag ar ran un o'i chleientiaid. Polisi Excell Supply, fel mater o gwrteisi, yw ymateb i bob cais o fewn tri diwrnod gwaith. Fodd bynnag, oherwydd nifer y ceisiadau weithiau, ni allwn ymateb i ymgeiswyr unigol. Os nad ydym wedi cysylltu â chi o fewn tri diwrnod gwaith, mae eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn ac nid yw eich manylion wedi'u cadw. Mae croeso i chi wneud gais am unrhyw swydd arall y gallech ei weld yn y dyfodol. Mae Excell Supply yn Asiantaeth Recriwtio ac mae'n hysbysebu'r swydd wag hon ar ran un o'i Chleientiaid.

JOB REQUIREMENTS