MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: swyddog polisi a chynllunio
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,030 - £28,850
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Swyddog Polisi a Chynllunio

Swyddog Polisi a Chynllunio

Cyngor y Gweithlu Addysg
£25,030 - £28,850 y flwyddyn gyda buddion ychwanegol

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr annibynnol, sy’n sicrhau proffesiynoldeb ac ymddygiad a chymhwysedd o safon uchel yn y gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio fel rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am arwain gwaith polisi a chynllunio CGA, bydd y Swyddog Polisi a Chynllunio yn cynnal ymchwil ac yn cynorthwyo i ddatblygu a drafftio dogfennau polisi fel ymatebion ymgynghori a Chanllawiau Arfer Da ar gyfer cofrestreion. Bydd y Swyddog Polisi a Chynllunio hefyd yn cynorthwyo i baratoi a monitro prosesau cynllunio mewnol CGA i gefnogi ei amcanion strategol, gweithredol a chydraddoldeb.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio'n effeithiol o fewn amgylchedd prosiect, datblygu a chynnal prosesau gweinyddol a threfnu a hwyluso cyfarfodydd. Bydd ganddynt sgiliau rhyngbersonol a rheoli amser ardderchog gyda'r gallu i goladu gwybodaeth a data amrywiol. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol i’r swydd.

Mae buddion cyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

E-bostiwch swyddi@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio
JOB REQUIREMENTS
Gweler y dogfennau atodedig