MANYLION
- Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
- Testun: Swyddog Cofrestru
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £25,030 - £28,850
- Iaith: Dwyieithog
This job application date has now expired.
Swyddog Cofrestru (Gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol)
Cyngor y Gweithlu Addysg
£25,030 - £28,850 y flwyddyn gyda buddion ychwanegol
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Gan weithio fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA, gan gynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi dwyieithog proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn siaradwr Cymraeg rhugl a bydd ganddo’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).
E-bostiwch swyddi@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio
JOB REQUIREMENTS
Gweler y dogfennau atoledig