MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Testun: Swyddog Cofrestru
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Swyddog Cofrestru

Cyngor y Gweithlu Addysg
£25,030 - £28,850 y flwyddyn gyda buddion ychwanegol

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r corff proffesiynol statudol, hunanreoleiddiol ar gyfer aelodau’r gweithlu addysg yng Nghymru.

Gan weithio fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA, gan gynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda phrofiad o drin ymholiadau amrywiol. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol i’r swydd.

Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).

E-bostiwch swyddi@cga.cymru i gael rhagor o wybodaeth neu i lawrlwytho pecyn cais, ewch i: https://www.ewc.wales/recriwtio
JOB REQUIREMENTS
Gweler y dogfennau atodedig