MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

School Support Officer Level 3 - St Davids RC Primary School

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,269 - £30,060 Pro Rata | Grade 5

14 Awr yr wythnos
8:30am - 4.00pm Dydd Iau a dydd Gwener
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant am benodi Swyddog Cymorth Ysgol am 2 ddiwrnod yr wythnos. Y Swyddog Cymorth Ysgol yw'r pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr sy'n dod i'r ysgol, gan gynnwys rhieni, staff a phlant. Dylai'r Swyddog fod yn groesawgar, dymunol a chynorthwyol gyda'r gallu i gynrychioli'r ysgol mewn ffordd broffesiynol a chyfeillgar. Yn ogystal, mae'n hanfodol bod yr unigolyn sy'n addas i'r swydd yn drefnus, yn gallu amldasgio, gweithio'n hyblyg ac yn un sy'n gall bwrw ati yn hyderus yn ei g/waith. Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cymorth Ysgol hefyd gynorthwyo'r Pennaeth gyda thasgau gweinyddol amrywiol, sy'n gofyn am lefel dda o gyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig a sgiliau TG da.
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn ysgol hapus a chroesawgar gyda thîm ymroddgar o staff. Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol brwdfrydig ac ymroddgar fel Swyddog Cymorth Ysgolion i weithio ochr yn ochr â thîm o staff rhagorol.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid ydynt yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rhestr fer: Dydd Iau 22 Mai
Cyfweliadau: I'w cadarnhau
Dyddiad Cychwyn: Dydd Iau 4 Medi