MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Cymorth
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Gofal Plant Dechrau'n Deg - Cymraeg yn hanfodol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Gofal Plant Dechrau'n Deg

G06 £24,054 - £25,409 pro rata

Dros dro tan 31 Mawrth 2025

32.5 Oriau'r wythnos. Amser Tymor yn Unig

Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.

Mae Dechrau'n Deg Wrecsam yn dymuno recriwtio Swyddog Gofal Plant Dechrau'n Deg hyderus, llawn cymhelliant a gwybodus i ymuno â'n Tîm Cynghori Dechrau'n Deg. Mae'r swydd wag hon am gyfnod penodol i ddechrau tan fis Mawrth 2025 gyda phosibilrwydd o estyniad pellach yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru. Swydd gweithio yn ystod y tymor yw hon. Mae'r gallu i weithio'n hyblyg ac i deithio rhwng gwahanol leoliadau ar draws Wrecsam yn hanfodol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos hyblygrwydd o ran dull; ymdeimlad cryf o waith tîm a dangos gweledigaeth a dealltwriaeth glir o beth yw gofal plant o safon. Byddai profiad o weithio yn y sector Gofal Plant / Blynyddoedd Cynnar yn fuddiol.

Mae'r swydd hon yn gofyn am ddealltwriaeth ragorol o ddatblygiad plant 0-4 oed a sgiliau cyfathrebu datblygedig.

Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng Cymraeg yn HANFODOL.

Mae cliriad DBS yn hanfodol ar gyfer gweithio o fewn y tîm Dechrau'n Deg.

Bydd y swydd yn cychwyn cyn gynted ag y gellir rhyddhau'r ymgeisydd llwyddiannus ac yn amodol ar wiriadau cyflogaeth arferol a threfniadau DBS.

Os oes gennych brofiad o weithio yn y sector Gofal Plant / Blynyddoedd Cynnar, yn angerddol am y rôl gadarnhaol y gall gofal plant ei chwarae yn natblygiad plant a lles teuluoedd ac eisiau gwneud gwahaniaeth, byddem yn croesawu eich cais.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Melita Colling, Arweinydd Gofal Plant Dechrau'n Deg ar 01978 317020 Tîm Cynghori Gwenfro, Queensway, Wrecsam, LL13 8UW

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.