MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr Peirianneg Uwch / Prentis Hyfforddwr Arddangoswr Peirianneg Uwch
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser
Cyflog: £22,982 - £27,121/Cyfradd Prentis
Ydych chi’n Beiriannydd Medrus sy’n awyddus i rannu eich arbenigedd ymarferol a’ch sgiliau gyda’n myfyrwyr? Os felly, mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr mewn Peirianneg Uwch i weithio ar ein safle Glannau Dyfrdwy.
Neu a ydych chi'n ddarpar Beiriannydd sy'n awyddus i ddatblygu eu harbenigedd a'u sgiliau ymarferol a'u rhannu gyda'n myfyrwyr?
Fel Hyfforddwr Arddangoswr, byddwch yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol mewn Peirianneg yn bennaf i’n myfyrwyr yn Sefydliad Technoleg o’r radd flaenaf Coleg Cambria. Byddwch yn gyfrifol am baratoi amserlen o weithgareddau ymarferol o wybodaeth gan Gyfarwyddwyr Cwricwlwm a Darlithwyr yn ogystal â rhoi cymorth wrth fonitro cynnydd myfyrwyr. Bydd yr Hyfforddwr Arddangoswr yn cynorthwyo gydag asesu cymhwysedd a chynnydd myfyrwyr mewn gweithgareddau ymarferol hefyd. Byddwch yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw amgylcheddau gwaith yn rhagweithiol ac offer arbenigol i alluogi darpariaeth i’n dysgwyr. Bydd gofyn i chi gwblhau cofnodion diweddar, cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr yn ogystal â chynhyrchu canlyniadau cyrsiau.
Neu mewn swydd Brentis byddwn yn helpu i ddatblygu eich sgiliau i symud ymlaen i fod yn Hyfforddwr Arddangoswr cwbl gymwys, gan weithio tuag at y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwyster sydd eu hangen i gefnogi ein dysgwyr.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad diweddar yn y diwydiant peirianneg (mecanyddol neu electroneg neu gynnal a chadw). Yn ddelfrydol bydd ganddynt brofiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol neu weithdy. Dylech allu dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun. Fel Hyfforddwr Arddangoswr bydd gennych sgiliau rhyngbersonol ardderchog ac yn gallu creu amgylchedd gofalgar a chefnogol i’n myfyrwyr.
Neu yn y swydd Brentis byddwn yn chwilio am rywun sydd efallai newydd ennill cymhwyster lefel 2 mewn Peirianneg ac yn barod i weithio tuag at lefel 3.
Gofynion Hanfodol
· Cymhwyso i Lefel 3 o leiaf mewn Peirianneg neu gyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (Lefel 2 ar gyfer swydd y prentis ac yn barod i weithio tuag at lefel 3)
· Profiad diwydiant diweddar mewn maes arbenigol perthnasol. (Ar gyfer y swydd brentis rydym yn edrych am yr awydd i ddysgu sgiliau Hyfforddwr Arddangoswr ac astudio ochr yn ochr â'r swydd)
· Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hunan a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
· Gallu defnyddio Microsoft Office a phecynnau TGCh eraill
· Hunanhyder ac yn dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu
· Gallu sefydlu perthnasau gweithio effeithiol ac yn aelod cadarn o dîm
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai