MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro

Ffordd y Frenhines

Wrecsam

Ffon: 01978 340380

Prifathrawes: Mrs. K. Owen-Jones

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2

Graddfa G04 £13,767 - £14,018 y flwyddyn

28.75 awr yr wythnos

YN YSTOD Y TYMOR A DIWRNODAU HYFFORDDIANT

I ddechrau Medi 2023

Swydd dros dro tan 31.08.2024 yn y lle cyntaf

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 2 i weithio yn ein hadran CA2, o dan gyfarwyddyd uniongyrchol y staff addysgu/staff uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth gyda'r athrawon, i gefnogi mynediad disgyblion at ddysgu a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athrawon wrth reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â RhBY ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Mailbox@gwenfro-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: hanner dydd 17 Gorffennaf 2023

CYFWELIADAU: 19 Gorffennaf 2023