MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Grade 1 | £12.60 per hour
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 1 | £12.60 per hour
15 awr yr wythnos, Llun - Gwener, 3PM-6PM 42 wythnos y flwyddyn Dros dro, 1 flwyddyn yn y lle cyntafMae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais $ú canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, rydym yn chwilio am lanhawr deinamig a dibynadwy i weithio fel rhan o'n tîm cyfeillgar i gyflawni amrywiaeth o dasgau a dyletswyddau glanhau rheolaidd ac achlysurol, yn ôl cyfarwyddyd eu rheolwr llinell.
RYDYM YN CYNNIG
- Tîm o weithwyr proffesiynol sy'n ymroddgar a chyfeillgar.
- Parcio ar y safle.
- Cynllun Pensiwn.
- Buddion i gyflogeion fel talebau gofal plant a gostyngiadau manwerthu.
- Y cyfle i fod yn rhan o gymuned ehangach yr ysgol.
- Glanhau ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd a rennir bob dydd
- Sicrhau bod ystafelloedd ymolchi yn cael eu cadw'n lân
- Mopio lloriau caled a defnyddio peiriant sugno llwch ar y lloriau sydd â charped
- Sychu dodrefn, addurniadau a ffitiadau gyda chadach llaith a gwacau biniau
- Gallu rheoli amser yn effeithiol i gwblhau tasgau i safon uchel.
- Gallu gweithio heb angen llawer o oruchwyliaeth.
- Parchu a gwerthfawrogi'r gwahanol brofiadau, syniadau a chefndiroedd y gall eraill eu cyflwyno i'r gwaith a'r timau.
- Gweithio oriau hyblyg.
- Ymrwymo i hapusrwydd, llesiant, hunan-barch a chynnydd pawb yn yr ysgol.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn Ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu&©r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal