MANYLION
  • Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
  • Testun: Athro
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Ymgynghorol - ADY

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn edrych am Gydlynydd ADY creadigiol a brwdfrydig, sydd â phrofiad o weithio yn y maes ADY, i weithio o fewn yr Adran ADY, cynhwysiant a lles yng Ngheredigion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • Cyd-weithio gyda ysgolion, disgyblion a rhieni, gan gynnig arweiniad a chyngor. Byddant yn gweithio gyda disgyblion er mwyn adnabod a darparu strategaethau a chyngor ar ddiwallu eu anghneion dysgu
  • Cyd-weithio i ddatblygu a gweithredu'r mesur ADY yn effeithiol o fewn yr Awdurdod
  • Cyd-weithio gyda chyd-lynwyr ADY a staff ategol o fewn ein hysgolion
  • Cyd-weithio gydag aelodau'r timoedd ADY, Lles a chynhwysiant a'r tîm gwella ysgolion o fewn Gwasanaethau ysgolion Ceredigion
  • Cyd-weithio gydag asiantaethau eraill yn ôl yr angen

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Gillian Evans gillian.evans@ceredigion.gov.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwi'r yr hawl i newid y ffenestr ymgeisio fel ei bod yn cau'n gynt neu'n hwyrach na'r hyn a hysbysebir ar hyn o bryd.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy