MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria

Stryt Poyser

Wrecsam

LL13 7RR

Ffôn: 01978 360060

Pennaeth: Mrs D Eccles

E-bost: Mailbox@victoria-pri.wrexham.sch.uk

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

G03 £13,858 - £14,110 y flwyddyn

30 awr yr wythnos

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Dros dro tan y Pasg (yn dibynnu ar gyllid)

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 i ddarparu cefnogaeth un i un i ddisgybl yng Nghyfnod Allweddol 2 gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Rhaid i chi fod yn amyneddgar, caredig, brwdfrydig ond yn fodlon parhau i gefnogi'r disgybl gydag anghenion cymhleth. Mae gallu sefydlu perthnasau gwaith da gyda rhieni ac athrawon yn hanfodol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r disgybl yn y dosbarth ac yn gweithio'n unigol ar dargedau o'u CDU. Byddwch yn gweithio gydag asiantaethau allanol pryd a phan fo angen i gofnodi, monitro a diweddaru cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at eu hargymhellion. Mae profiad o'r maes iaith a lleferydd yn ddymunol iawn. Byddwch yn gweithio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol y Cydlynydd ADY.

Dyma swydd llawn amser sy'n cynnwys ychydig o gefnogaeth hefyd i'r disgybl yn ystod amser cinio.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â'r Pennaeth neu'r Cydlynydd ADY ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:

Mailbox@victoria-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Mawrth 27 Mehefin 2023

CYFWELIADAU: Dydd Mercher 5 Gorffennaf 2023, 3.30pm ymlaen