MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Testun: Chwaraeon a Hamdden
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Darlithydd Chwaraeon a delir yn ôl yr awr
Swydd-ddisgrifiad Darlithydd Chwaraeon a delir yn ôl yr awr
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £22,581 - £26,649 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £28,751 - £44,442 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am unigolion brwdfrydig llawn cymhelliant i ddysgu ar sail tâl fesul awr yn yr Adran Chwaraeon.
Gofynnwn i chi fod ag ymwybyddiaeth a gwybodaeth gref o'r pwnc, gradd mewn pwnc sy'n ymwneud â Chwaraeon, ynghyd â thystysgrif TAR, neu fod yn barod i'w chael. Dylech hefyd feddu ar ddealltwriaeth o'r cwricwlwm Chwaraeon a phrofiad o hyfforddi, gweithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon.
Os ydych yn credu y gallwch gyfrannu at ddysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych!
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.