MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £29,278 - £45,085
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (ACEY) yn Ysgol Gynradd y Cefn

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (ACEY) yn Ysgol Gynradd y Cefn

Rhondda Cynon Taf
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Gynradd y Cefn.

Graddfa Gyflog: Athrawon ynghyd â Lwfans AAA

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf am benodi athro/athrawes â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Gynradd y Cefn i ddechrau yn nhymor yr Hydref. Bydd y dosbarth Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) yma ar gyfer hyd at 8 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Yn gyfrifol am y dosbarth mae un athro a dau gynorthwy-ydd cymorth dysgu.

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol / Anogaeth.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffonio 01443 744333.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar ddydd Gwener, 23 Mehefin 2023.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.