MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr,
  • Testun: Arweinyddiaeth
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £65,000.00 - £70,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Is-Bennaeth Profiad y Dysgwr

Is-Bennaeth Profiad y Dysgwr

Y Coleg Merthyr Tudful
Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol Profiad y Dysgwr a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni gweledigaeth y coleg a'n taith barhaus i ragoriaeth, ymuno â thîm deinamig a darparu arweiniad strategol ar gyfer profiad dysgwyr ar draws y coleg. Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth, Is-bennaeth Adnoddau, Is-bennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd a gweddill yr uwch dîm rheoli, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod profiad y dysgwr yn rhagorol.

Mae hon yn swydd uwch dynodedig a deiliad y swydd fydd yr arweinydd strategol ar gyfer profiad y dysgwr ar draws y coleg. Bydd deiliad y swydd yn dyfeisio, cyflwyno a gweithredu strategaethau i dynnu ynghyd elfennau amrywiol profiad ehangach y dysgwr yn un llwybr cydlynol gydag ansawdd a chydraddoldeb wrth wraidd pob llinyn.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynrychioli'r coleg ar nifer o Fforymau Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru ac Amlasiantaeth, ac yn cynghori a hysbysu'r Pennaeth a'r Bwrdd Cyfarwyddwyr am ddatblygiadau, risgiau a chyfleoedd allanol, meysydd o arfer da a meysydd sydd angen eu gwella yn y coleg.

Bydd elfen allweddol o hyn yn gofyn am y gallu i arwain a gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y coleg, gan greu amgylchedd perfformiad uchel ar gyfer dysgwyr a staff sy'n canolbwyntio ar lwyddiant, gan sicrhau hefyd bod gan y coleg lais sylweddol ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous nid yn unig i ymuno ag un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru, ond hefyd coleg a ddisgrifiwyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford AS fel 'Un o lwyddiannau mwyaf datganoli'.

Dyddiad cau; Dydd Llun 26 Mehefin 2023