MANYLION
- Lleoliad: Merthyr Tydfil,
- Testun: Athro
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Ysgol Gynradd Gellifaelog
Penydarren, Merthyr Tudful, CF47 9TJ
Gwefan: www.gellifaelogprimary.org Rhif FF?n: 01685 351812
Pennaeth: Mr James Voros
Nifer disgyblion: 255
3 x Athro/ Athrawes - Dros dro
(2 x 1 contract blwyddyn yn y lle cyntaf, 1 x Swydd Mamolaeth)
Prif Raddfa Cyflog Athrawon
I gychwyn tymor yr Hydref 2023 (Yn dilyn gwiriad)
Mae Gellifaelog yn ysgol hapus, ofalgar sydd am i bob plentyn ragori! Mae'r Corff Llywodraethol am benodi athro rhagorol, gofalgar, creadigol a brwdfrydig, sy'n deall yr angen am berthnasoedd effeithiol ac addysgeg effeithiol, gan wneud gwahaniaeth i fywydau ein plant, ein teuluoedd a'n cymuned yn awr ac yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn:
• Bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli ac yn annog plant i gyrraedd eu llawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o gyflawniad ac ymrwymiad i gynnydd rhagorol i bob plentyn.
• Bod yn angerddol dros addysg a meddu ar yr ymrwymiad a'r egni i arwain maes cwricwlwm sy'n galluogi pob plentyn i lwyddo yn ei ddysgu.
• Dangos cymhwysiad rhagorol o addysgeg effeithiol, a gwybodaeth ragorol o'r newidiadau diweddaraf i ddisgwyliadau'r cwricwlwm yng Nghymru.
• Bod yn awyddus i weithio i gryfderau pob plentyn, cefnogi unrhyw anghenion, a darparu amgylchedd dysgu cynhwysol.
• Deall mai tegwch yw'r allwedd i roi'r cyfleoedd gorau i bob plentyn yn eu bywydau.
• Arddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol.
• Bod â brwdfrydedd dros ddatblygu disgyblion yn ddwyieithog ac yn agored i ddiwylliannau ac ieithoedd gwledydd eraill
• Gallu cyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.
• Bod yn hyblyg, yn ddyfeisgar ac yn arloesol.
Beth allwn gynnig i chi:
• Plant anhygoel sy'n caru eu hysgol ac yn caru dysgu.
• Tîm cryf, cyfeillgar a hapus sy'n cydweithio, yn croesawu pawb, ac yn rhoi cymorth i fod y gorau y gallwn fod.
• Corff Llywodraethol, Tîm Arwain a Staff blaengar, sy'n croesawu newid er lles yr ysgol.
• DPP o ansawdd uchel, hyfforddiant a mynediad at ddarllen proffesiynol fel rhan o'n cylch Rheoli Perfformiad.
• Manteision ychwanegol i les staff - megis mynediad at wasanaethau meddyg teulu 24 awr, ffisiotherapi ac offer lles.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 16 Mehefin 2023
Bydd y rhestr fer yn digwydd ar: Wythnos yn dechrau 19 Mehefin 2023
Cynhelir cyfweliadau ar: 27 Mehefin 2023
Arsylwi Addysgu: Yn y lleoliad presennol, neu yn Ysgol Gynradd Gellifaelog. I'w drefnu ar ôl llunio rhestr fer.
Bydd ymgeiswyr llwyddianus yn cael eu gwahodd i ymweld a'r ysgol trwy apwyntiad.
Gweler yr hysbyseb lawn am fanylion llawn.