MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Testun: Pennaeth Adran
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £65,000.00 - £70,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

HT44-3123 Pennaeth Ysgol Gynradd Dowlais

HT44-3123 Pennaeth Ysgol Gynradd Dowlais

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
ADRAN YSGOLION
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL

Y STRYD FAWR
DOWLAIS
MERTHYR TUDFUL
CF48 3HB

FF?N: 01685 351808
PENNAETH
ISR: L15 I L21

Nifer Disgyblion: 175 Ystod Oedran: 3-11 Ysgol Grwp: 3
Dyddiad Cau: Mehefin 19eg 2023

Yn eisiau erbyn Ionawr 2024 (neu yn gynt os yn bosib)
Yma yn Ysgol Gynradd Dowlais:
• ein nod yw datblygu unigolion gwydn sy'n croesawu her yn hyderus.
• rydym am ysbrydoli angerdd am ddysgu ym mhob un a chreu cwricwlwm sy'n cyffroi ac yn herio.
• rydym yn meithrin ymdeimlad o berthyn yn ein cymuned ac yn dathlu ei hamrywiaeth.
• rydym yn hyrwyddo cynhwysiant ac yn gwerthfawrogi cyflawniadau pob unigolyn.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad Pennaeth cyntaf feddu ar y CPCP.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mehefin 2023.
Bydd y rhestr fer yn digwydd ar 20 Mehefin a chynhelir y cyfweliadau dros ddau ddiwrnod ar 27 a 28 Mehefin 2023. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod ar ddiwedd Diwrnod 1 os ydynt am symud ymlaen i Ddiwrnod 2.

Mae Pecyn Ymgeisydd wedi'i baratoi i gefnogi'ch cais. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Gary Winston, Clerc y Corff Llywodraethol ar gary.winston@merthyr.gov.uk neu 07825 703239.

Gellir cael ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na Mehefin 19 2023 (hanner nos)i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg. Cysylltwch ar yr e-bost uchod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, a beichiogrwydd a mamolaeth.