MANYLION
  • Testun: Athro
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/ Athrawes Ddosbarth

Athro/ Athrawes Ddosbarth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Adran Ysgolion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Ysgol Gynradd Gwaunfarren
Rhodfa Alexandra
Merthyr Tudful
CF47 9AF
E-bost: office@gwaunfarren.merthyr.sch.uk
Rhif Ff?n: 01685 351810
Pennaeth: Mr A. Lewis

NAG: 277

Athro/ Athrawes Ddosbarth

Prif raddfa athrawon
Yn eisiau erbyn: mis Medi 2023
Tymor Penodol Dros Dro (un tymor llawn amser, 2 dymor 0.5, rhannu swydd)

Mae Ysgol Gynradd Gwaunfarren yn ysgol lwyddiannus, fywiog a hapus sy'n cynnig cyfleoedd dysgu rhagorol i'n holl blant, yn ogystal â datblygiad proffesiynol ein staff. Mae Ysgol Gynradd Gwaunfarren yn ysgol flaengar, a nodwyd fel 'Da' gan ESTYN. Mae'r Corff Llywodraethol yn chwilio am Athro Ysgol Gynradd ysbrydoledig, arloesol, llawn cymhelliant a chydwybodol i ymuno â thîm ymroddedig, gweithgar yn ein hysgol lwyddiannus i gyflenwi swydd famolaeth yn ein Cyfnod Sylfaen. Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar arbenigedd a hyblygrwydd i weithio o fewn lleoliad Ysgol Gynradd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn:

o Ymarferydd dosbarth rhagorol.
o Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
o Parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol
o Atebol am safonau'r disgyblion yn eu dosbarth.
o Creadigol, deinamig a hyblyg.
o Wedi ymrwymo i godi safonau a gwneud dysgu'n hwyl ac yn ddiddorol.
o Gallu meithrin, ysbrydoli a chymell disgyblion o alluoedd cymysg.
o Gallu gweithio fel rhan o dîm i gyflawni'r gorau i bob disgybl
o Gallu defnyddio TG yn effeithiol i gefnogi a gwella addysgu a dysgu
o Gwybodus o'r diwygiadau addysgol presennol.
o Meddu ar sgiliau rheoli dosbarth a chyfathrebu rhagorol

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd fydd dydd Mercher 21 Mehefin 2023 am 12:00pm.

Bydd y rhestr fer yn digwydd ddydd Mercher 28 Mehefin 2023. Cysylltir ag ymgeiswyr llwyddiannus.

Trefnir arsylwadau gwersi yn yr ysgol gydag ymgeiswyr llwyddiannus.

Cynhelir y cyfweliadau ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023.
Ref: TC023-2423

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gydag Andrew Lewis ar 01685 351810 neu e-bostio Andrew.Lewis@merthyr.gov.uk.

Gellir cael ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na dydd Mercher Mehefin 21ain 2023 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.Cysylltwch ar yr e-bost uchod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.