MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Testun: Addysg Bellach
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Darlithydd TG a delir yn ôl yr awr
Disgrifiad o'r swydd Darlithydd TG a delir yn ôl yr awr
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £22,903 - £27,030 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £29,162 - £45,077 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am unigolion brwdfrydig llawn cymhelliant i ddysgu ar sail tâl fesul awr yn yr Adran TG. Wrth weithio fel rhan o dîm, bydd gofyn i chi cynllunio, darparu ac yn asesu sesiynau theori ac ymarferol, felly bydd gennych brofiad helaeth o ddefnyddio blaengarwch, creadigrwydd a phenderfyniadau da wrth gyflwyno gweithgareddau mewn maes sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.
Gofynnwn i chi feddu ar radd berthnasol neu brofiad cyfatebol yn y diwydiant, ynghyd â thystysgrif TAR, neu fod yn barod i'w chael. Dylech hefyd feddu ar wybodaeth am gyflwyno'r cwricwlwm ar gyfer safonau cymhwyster TG Addysg Bellach ac Addysg Uwch o Lefel 1 i Lefel 3.
Gofynnwn i chi fod â dealltwriaeth dda o bynciau TG craidd fel rhaglennu, rhwydweithio, caledwedd, seiberddiogelwch, cronfeydd data a dylunio gemau gydag arbenigedd mewn un neu fwy o'r meysydd hyn, yn ogystal â’r gallu i gyfleu’r wybodaeth yma i ystod eang o ddysgwyr â lefelau gallu gwahanol.
Os ydych yn credu y gallwch gyfrannu at ddysgu ac addysgu yn y maes hwn, hoffem glywed gennych!
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.