MANYLION
  • Lleoliad: Caerphilly,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Early Years and Childcare Trainee

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Early Years and Childcare Trainee
Disgrifiad swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer 3 unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymgymryd â rhaglen hyfforddi 18 mis o fewn ein Tîm y Blynyddoedd Cynnar bywiog ac arloesol.

Bydd deiliaid y swydd wedi eu lleoli yn Nhŷ Penallta ond byddan nhw'n gweithio mewn lleoliadau amrywiol ledled y Fwrdeistref Sirol i gael profiad o holl elfennau Tîm y Blynyddoedd Cynnar.

Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd ymgymryd â'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn llwyddiannus gyda chymorth Tîm y Blynyddoedd Cynnar i ymgymryd â'r tasgau a gofynion angenrheidiol o fewn yr amserlen sydd wedi'i ddyrannu.

Bydd cyfle i gael profiad o bob elfen o’r Blynyddoedd Cynnar a bydd pob deiliad swydd yn cylchdroi o fewn y gwasanaeth i dreulio amser mewn lleoliad gofal plant, a gyda phob un o'n timau Ymyrraeth Gynnar (Iaith Gynnar, Ymuno a Chwarae, a thimau Cymorth Teulu), yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol megis y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol a Chwarae yn y Parc.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Stacy Price ar 07707 300781

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.