MANYLION
- Lleoliad: Gorseinon, Swansea, SA4 6RD
- Testun: Rheolwr Ardal Cwricwlwm
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 11:59 y.p
This job application date has now expired.
Rheolwr Maes Dysgu - Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau
Coleg Gwyr Abertawe
Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.
Y rôl:
Mae cyfle secondiad cyffrous wedi codi i Reolwr Maes Dysgu ym maes Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau.
Mae’r Maes Dysgu yn eang iawn, ac mae’r cwricwlwm yn cynnwys darpariaeth ar gyfer myfyrwyr o bob lefel 2-5 gan gynnwys darpariaeth Safon Uwch, Galwedigaethol, Prentisiaethau a PLA. Mae darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith a chyrsiau Cyfrifeg yn rhan o’r ddarpariaeth
Llawn Amswer (37 awr y wythnos)
Parhaol
£50,641 - £50,032 y flwyddyn
Gorseinon campws
Cyfrifoldebau Allweddol:
Yn gyfrifol am gynllunio a rheoli’r maes dysgu, bydd dyletswyddau’r rôl yn cynnwys; cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm, sicrhau ansawdd, datblygu staff, rheoli dysgwyr a chyllidebu
Helpu i arwain tîm o staff fel y gallwch sicrhau bod y safonau ansawdd uchaf posib yn cael eu hymgorffori yn y ddarpariaeth, yn ogystal â gwella safonau ac ymateb i anghenion dysgwyr
Amdanoch chi:
Mae profiad o weithio mewn sector galwedigaethol/academaidd
Hanes o feithrin perthynas waith dda gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ym maes Celfyddydau Creadigol a Dyniaethau yn ddymunol
Gallu dangos llwyddiant wrth godi safonau a darparu arweinyddiaeth tîm mewn rôl cydlynu cwrs neu arwain cwricwlwm
Dyma rôl sy’n ymwneud â darparu cwricwlwm a bydd gofyn i chi rheoli timau ledled sawl safle, felly bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg ac yn drefnus iawn
Buddion:
37 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
2 ddiwrnod lles i staff
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).