MANYLION
  • Lleoliad: Cwmbran, All Wales, NP44 1PR
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Salary Range: £22,150.00 - £22,500.00
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Cynorthwywyr Gweinyddol

Rydym yn recriwtio Cynorthwywyr Gweinyddol

Gyrfa Cymru
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyflawni cylch gwaith a bennwyd gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd dwyieithog, annibynnol a diduedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), gweithio hybrid, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd. Fel rhan o’r cynllyn hyfforddiant ar gyfer y swyddi yma bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes, Lefel 2, os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a derbynfa effeithlon ac effeithiol i'n timau a'n canolfannau.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (dros y ffôn, dros yr e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
• Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
• Y gallu i ymdrin ag ymholiadau anghyffredin lle y gall fod angen trafod a pherswadio
• Sgiliau TGCh
• Y gallu i drefnu a blaenoriaethu eich baich gwaith eich hun a chyrraedd amrywiol derfynau amser
• Y gallu i ddefnyddio cymhelliant a chrebwyll wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at AD@gyrfacymru.llyw.cymru erbyn 9am 21/06/23. Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.

Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Mae'r swydd-ddisgrifiad llawn, y ffurflen gais a'r ffurflen Asesu Iaith Gymraeg (os ydych yn medru siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) er mwyn gwneud cais am y swydd hon ar gael yn: https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://gyrfacymru.llyw.cymru/amdanom-ni/gweithio-i-ni