MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Testun: Athro
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Garth - Dros Dro

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Garth - Dros Dro

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Garth - Dros Dro
Disgrifiad swydd
Athro/Athrawes Dros Dro - am 2 Dymor i Ddechrau – gan ddechrau ym mis Medi

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Garth yn dymuno penodi athro/athrawes effeithiol, frwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm cyfeillgar, gofalgar a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am ymarferydd eithriadol a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu profiadau dysgu sy'n ysbrydoli i'n holl ddisgyblion.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Dangos sgiliau gwych o ran addysgu a rheoli dosbarth ar draws yr ystod oedran cynradd;

Meddu ar ddealltwriaeth dda iawn o'r Cwricwlwm i Gymru a diwygio ADY;

Bod yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, boddhaus a pherthnasol i'n plant;

Dangos disgwyliadau uchel o gyflawniad, safonau ac ymddygiad;

Gallu gweithio fel rhan o dîm ymroddedig a bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol;

Mae cryfder penodol mewn cerddoriaeth a'r gallu i addysgu gwersi cerddoriaeth yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Byddai'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno, rydym yn croesawu eich cais yn fawr.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau:                           23 Mehefin 2023

Dyddiad llunio'r rhestr fer:       27 Mehefin 2023

Dyddiad y cyfweliad:               06 Gorffennaf 2023

Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion sydd wedi'u cynllunio i ddenu, datblygu, a gwobrwyo ein gweithwyr – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth

Cliciwch yma i gael y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

I wneud cais am y swydd hon cliciwch 'Gwneud cais ar-lein’