MANYLION
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 BCACS Campws y Santes Fair

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3 BCACS Campws y Santes Fair

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Yn eisiau erbyn mis Medi 2023 Ref: LS040-3023
1 flwyddyn Cyfnod Penodol
Yn ystod y tymor yn unig 30awr/yr wythnos

Gradd 3 SCP 7-12 (£22,369 - £24,496 p.a.)
SCP7 h.y. 70.91% o £22,369 = £15,862 y .f. pro rata

Cynorthwyydd Dysgu Lefel 3
Campws y Santes Fair

CA (L3) - Codi safonau - Ymyrraeth a chefnogaeth ddosbarth CA2.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus wedi ei lleoli yng Nghampws y Santes Fair o dan gontract yr Ysgol newydd.

Bydd y swydd yn cynnwys:

• Goruchwylio a chefnogi grwpiau o blant ar draws yr ystod oedran cynradd.
• Cynorthwyo i gynllunio a gweithredu gweithgareddau dysgu ar draws yr ystod oedran cynradd.
• Cyflwyno rhaglenni ymyrraeth.
• Cynnal asesiadau disgyblion.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
• Rhoi adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad o dan arweiniad yr athro.

Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn:

• Yn aelod o'r ffydd Gatholig neu'n gwbl ymroddedig i gefnogi ethos a chenhadaeth ein Hysgol Gatholig.
• Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
• Gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ymroddedig, gweithgar.
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu gweithio o dan arweiniad a chyfarwyddyd Pennaeth y Campws, Cydlynydd SIY/Arweinydd Cyfnod Sylfaen/ Cydlynydd ADY a'r athro dosbarth.
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da iawn, bod yn hyderus, dibynadwy a hyblyg.
• Hyfforddiant diweddaraf Read Write Inc.
• Gallu dangos sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol.
• Gwybodus o weithdrefnau diogelu'r ysgol.
• Gallu dangos lefel uchel o flaengaredd personol.
• Dibynadwy a phroffesiynol.
• Cymryd rhan weithredol ym mywyd yr ysgol.

Mae croeso i ymgeiswyr sydd â diddordeb ymweld â'r ysgol ar 14eg Mehefin 2023 am 3.30pm. Cysylltwch â Mrs. Newland yn swyddfa'r ysgol ar 01685 351870 os dymunwch fynychu.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ar y rhestr fer gyflwyno gweithgaredd grwp 20 munud a chyfweliad ffurfiol i ddilyn.

Dyddiad cau: dydd Llun Mehefin 19eg 2023

Tynnir y rhestr fer ddydd Mercher Mehefin 21ain 2023

Cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn Mehefin 26ain 2023

Ffurflenni cais Staff Cymorth CES Cymraeg/Saesneg

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Claire Cope ar 01685 351802 neu e-bostiwch stmarysoffice@bcacs.merthyr.sch.uk.

Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na dydd Llun Mehefin 19eg 2023 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.Cysylltwch ar yr e-bost uchod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un. Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.