MANYLION
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

LS073-2923 Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Lefel 3 x 2 Ty Dysgu

LS073-2923 Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Lefel 3 x 2 Ty Dysgu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu- Lefel 3 x 2 swydd - Ty Dysgu, Merthyr PRU

32.5 awr

Graddfa 3 SCP 7-12 (£22,369 - £24,496 FTE) = 76.82% o £22,369
Cyflog = £17,183.87 p.a. pro rata

I ddechrau Dydd Llun, 4 Medi 2023

Mae gennym ddwy swydd wag ar gyfer cynorthwywyr dosbarth brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'n tîm.

Bydd disgwyl i ddeiliaid y swyddi weithio ledled ein darpariaethau o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. Rydym fel Awdurdod Lleol yn darparu cymorth ar gyfer disgyblion sydd ag amrywiaeth eang o anghenion, gan gynnwys SEBD. Mae'r ddarpariaeth ar gael ar gyfer hyd at 48 o ddisgyblion sydd â chyfradd staff/disgybl uchel. Rydym ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod cyffrous o newid lle y byddwn yn cydgysylltu'r safleoedd Cynradd ac Uwchradd yn y flwyddyn academaidd nesaf, o dan gyfarwyddyd ac arweiniad Pennaeth newydd y Ganolfan.
Prif swyddogaethau'r swydd:
• Cynllunio, paratoi a darparu rhaglenni dynodedig o weithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer unigolion, grwpiau a dosbarthiadau gan addasu gweithgareddau, yn ôl y galw a hynny o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd yr athro.
• Asesu, cofnodi ac adrodd yn ôl am ddatblygiad a chyrhaeddiad.
• Cydgysylltu â staff ac ymarferwyr proffesiynol eraill a darparu gwybodaeth ynghylch disgyblion, fel sydd yn addas.
• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgybl.
• Cefnogi disgyblion â lles cymdeithasol ac emosiynol, cofnodi problemau i'r athro, fel sydd yn addas.
• Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu cynlluniau datblygu unigol, ar y cyd â'r athro dosbarth ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal â mynychu/cyfrannu at gyfarfodydd Cynllunio o amgylch yr Unigolyn.
• Cyflenwi CPA a salwch byr pan fydd angen.
• Goruchwylio Arholiadau.
• Hebrwng a goruchwylio disgyblion ar weithgareddau addysgol a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol allai gynnwys gyrru cerbyd 9 sedd yr ysgol.
• Gweithio â disgyblion nad sydd yn dilyn yr amserlen arferol.
• Cefnogi rôl rhieni / gofalwyr yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu at gyfarfodydd â rhieni / gofalwyr er mwyn darparu adborth cadarnhaol ar ddatblygiad/cyrhaeddiad y disgybl ac ati.
• Disgwylir i Gynorthwywyr Cymorth Dysgu ar y Lefel hon i ymgymryd â'r canlynol:
Darparu cymorth i ddisgyblion sydd ag anawsterau dysgu, ymddygiadol, cyfathrebu, cymdeithasol, synhwyraidd neu gorfforol.
Darparu cymorth i ddisgyblion lle nad y Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Darparu cymorth i ddisgyblion mwy medrus a thalentog.

Gweler dogfen Manyleb y Person er mwyn gweld gofynion y swydd.

Os byddwch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs S Pugh (Pennaeth y Ganolfan).

Ceisiadau i'w cyflwyno erbyn Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2023.

Rhestr Fer - Dydd Mercher, 21 Mehefin 2023.

Cyfweliadau - Wythnos yn dechrau 26 Mehefin 2023.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs S Pugh ar 01685 724645.

Gellir cwblhau furflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na
Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2023 i Adran Weinyddol AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cwblhau ceisiadau yn y Gymraeg ac ni fydd ceisiadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r ceisiadau a dderbynnir yn y Saesneg.