MANYLION
  • Testun: Athro
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £35,000.00 - £40,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Cymwysedig ar gyfer disgyblion â Nam ar y Golwg

Athro Cymwysedig ar gyfer disgyblion â Nam ar y Golwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cynorthwyo'r Gwasanaeth Gwelliant a Chynhwysiant i ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer ysgolion a disgyblion, yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a blaenoriaethau'r gwasanaeth.

1. Cydweithio â Phennaeth AAY a Chynhwysiant, y Rheolwr AAY a'r Arweinydd Tîm AAY i ddatblygu a darparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg.

2. Cyfrifoldeb athro arbenigol ym maes nam ar y golwg ar gyfer llwyth achos plant a phobl ifanc sydd ag anghenion sylweddol. Bydd hyn yn cynnwys asesu a dynodi anghenion cynnar, datblygu a monitro ymyriadau yn yr ysgol, cyfranogi mewn adolygiadau yn yr ysgol ac amlddisgyblaethol, cydgysylltu rhwng disgyblion, y cartref, asiantaethau perthnasol a'r ysgol ac ysgrifennu adroddiadau.

3. Darparu dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion dynodedig i'w galluogi i gyrchu'r cwricwlwm a chodi safonau.

4. Dyfeisio, gweithredu a monitro Cynllun Ymyriad Arbenigol (CYA,) darparu copïau ar gyfer y rheolwr llinell ac adolygu, yn unol â'r Polisi AAY a Chynhwysiant.

5. Darparu gwybodaeth, cymorth a chanllawiau i rieni a gofalwyr ar bob agwedd o gefnogi plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg, cynorthwyo i weithredu a threfnu cymorth drwy gydgysylltu â gwahanol asiantaethau ac ymarferwyr proffesiynol a darparu gwybodaeth ac esboniadau gofynnol er mwyn sicrhau fod rhieni/gofalwyr yn cyflawni anghenion y plant.

GWELER YR HYSBYSEB AM FANYLION PELLACH.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Helen Coles ar 07925 893619.

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725199. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 23/6/23 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol/ hanfodol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.