MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mewn  Adeiladwaith a'r  Amgylchedd  Adeiledig

Darlithydd mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig

Coleg Y Cymoedd
Darlithydd mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig
Swydd ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad.

Fel Darlithydd, byddwch yn addysgu'n effeithiol ar ystod o gyrsiau gan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig / Peirianneg Sifil, yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau AU yn yr adran. Cefnogi dysgwyr i gyflawni canlyniadau
llwyddiannus. Cymryd rhan mewn gweithgareddau cadw a recriwtio fel sy'n briodol, Gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr a chyfrannu at amgylchedd sy'n annog pob dysg.

Gwybodaeth Bellach:

 

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd   ag   unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

 

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   careers@cymoedd.ac.uk